Seminarau Cytundebau Newydd!!
Y dilyn Digital Switch Over mae'n rhaid llunio cytundebau newydd er mwyn cyflawni gofynion y gwahanol undebau (MU WGGB ayyb) o fewn y gwasanaeth newydd. Er mwyn cyflwyno y cytundebau newydd yma i'n aelodau ynghyd ag unrhyw aelod cynhyrchu sydd a diddordeb ynddynt, rydym wedi trefnu dwy seminar a fydd yn cael eu cynnal yn y De ac yn y Gogledd ganol fis Medi. .
· Mi fydd y Seminar yn y De yn cael ei gynnal yng Ngwesty'r Future Inn, ym Mae Caerdydd, ar y 17eg o Fedi. Mi fydd y Seminar yn cychwyn am 10 o'r gloch y bore ac yn parhau drwy gydol y dydd.
· Mi fydd y Seminar yn y Gogledd yn cael ei gynnal ar y 15fed o Fedi, yng Ngwesty'r Seiont Manor yn Llanrug. Mi fydd y Seminar yn cychwyn am 10 o'r gloch y bore ac yn parhau drwy gydol y dydd.
Os hoffech fwy o fanylion neu sicrhau eich lle yn y Seminarau yma mae croeso i chi gysylltu a mi drwy ebost catrin.siriol@teledwyr.com, neu drwy ffonio 02920 490051.