Aelodaeth
Mae TAC yn gymdeithas fasnach sydd yn cynrychioli buddiannau cynhyrchwyr annibynnol sy'n cynhyrchu cynnwys teledu, ffilm ag aml-blatfform ar gyfer S4C. Mae TAC yn cynnig ystod eang o wasanaethau sydd yn cynnwys perthnasau diwydiannol a chyngor busnes a chyfreithiol yn ogystal ag yn gweithredu fel corff lobio a chynrychioladol mewn trafodaethau gyda darlledwyr, rheoleiddwyr, asiantaethau'r llywodraeth ac amryw o gyrff eraill.
Mae TAC yn cynrychioli dros hanner cant o gwmniau ar hyn o bryd ac mae'r nifer yn cynnyddu bob blwyddyn. Bydd y tanysgrifiad aelodaeth flynyddol yn seiliedig ar strwythur o ffioedd wedi eu bandio yn ôl trosiant blynyddol sydd ynghlwm a chynhyrchu i S4C. Wrth ddod yn aelod o TAC gallwch fanteisio ar sawl gwasanaeth:
- Gohebiaeth trwy e bost at bob cynrychiolwr yn nodi datblygiadau yn y gwasanaeth.
- Defnyddio cytundebau TAC a dogfennau eraill perthnasol
- Derbyn gwybodaeth, gwasanaethau busnes a chymorth llawn gan y swyddogion
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â TAC ar 02920 490051, neu drwy ebost catrin.siriol@teledwyr.com